Mae Hub Cymru Africa yn chwilio am Gadeirydd annibynnol ar gyfer ei Fwrdd Partneriaeth.
Hub Cymru Africa yw prif sefydliad datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang Cymru. Cawsom ein ffurfio ym mis Ebrill 2015 i ddod â gwaith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Cymru Masnach Deg, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a’r Panel Cynghori Is-Sahara ynghyd. Rydym yn cefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica Is-Sahara. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol yn ein gwaith, ac wedi cychwyn ar gyfnod strategol newydd. Fel rhan o’r prosesau hyn, fe wnaethom ymrwymo i adolygu ein trefniadau llywodraeth, a rhoi sylfaen gryfach inni symud ymlaen. Rydym yn dymuno penodi Cadeirydd newydd, a fydd yn gallu ein helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwn a'n gweledigaeth ar y cyd.
Ar hyn o bryd, mae bwrdd y bartneriaeth yn cynnwys dau ymddiriedolwr o bob sefydliad sy'n cymryd rhan. Mae'n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol ac am ddarparu trosolwg o raglen o weithgareddau sy'n cefnogi mentrau datblygu rhyngwladol yng Nghymru. Mae gwaith y bwrdd yn cael ei amlinellu mewn dogfen cytundeb partneriaeth fanwl sydd wedi cael ei llofnodi gan bob parti. Yn benodol, mae'r cytundeb partneriaeth yn amlinellu swyddogaethau penodol y Cadeirydd:
Sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei gyfrifoldebau
Cynrychioli’r Bwrdd lle bo angen ar gyfer unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Ymddiriedolwyr WCIA neu fusnes swyddogol arall
Cynnull a chadeirio cyfarfodydd y Bwrdd
Dyfarnu lle gofynnir mewn anghydfodau rhwng Partneriaid
Gweithredu fel Rheolwr Llinell ar gyfer Pennaeth y Bartneriaeth.
Ochr yn ochr â swyddogaethau penodol y cadeirydd, rydym yn credu bod angen set o sgiliau a gwybodaeth i sicrhau bod y Cadeirydd yn gallu ein helpu i gyflawni ein Gweledigaeth, Cenhadaeth, a’n Strategaeth.
Manyleb y Person
H = hanfodol; D = dymunol
Gwybodaeth am faterion rhyngwladol neu ddatblygiad lleol (H)
Gwybodaeth am y trydydd sector yng Nghymru (D)
Ymrwymiad cadarn i gydraddoldeb hiliol ac ymarfer gwrth-hiliaeth (H)
Sgiliau arwain profedig, gan gynnwys profiad sylweddol o weithio gyda Byrddau (H)
Sgiliau broceru/negodi (H)
Profiad profedig o weithio gyda sefydliadau cymhleth gyda chyllidwyr niferus (H)
Y gallu i neilltuo amser, brwdfrydedd ac egni i gefnogi Partneriaeth Hub Cymru Africa, gan gynnwys mynychu digwyddiadau a chynadleddau a gwaith y bwrdd. (H)
Y gallu i gynrychioli'r bartneriaeth yn gyhoeddus, yn glir ac yn hyderus (H)
Profiad o reoli adroddiadau uniongyrchol (H).
Oherwydd natur annibynnol y swydd hon, nid yw’r Bwrdd Partneriaeth yn gallu ystyried ceisiadau gan bobl sydd wedi bod yn staff neu’n ymddiriedolwyr unrhyw un o’r sefydliadau partner a restrir uchod yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, neu gan grwpiau sy’n derbyn cyllid gan unrhyw un o’r sefydliadau hyn. Rhaid i'r person fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru hefyd, fel y prif roddwr i'r Bartneriaeth.
Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y swydd hon ddarparu CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam eu bod yn gwneud cais am y rôl a, gan ddefnyddio manyleb y person, amlinellu eu sgiliau. Dylid anfon y rhain at enquiries@hubcymruafrica.wales erbyn 09:00 BST ar 12fed Gorfennaf 2024.
Yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr, mae cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer 24ain a 25ain Gorffennaf 2024.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr du a hiliol, yn enwedig y rhai sy'n nodi eu bod yn rhan o'r gymuned alltud Affricanaidd sy'n byw yng Nghymru.
I drafod y rôl, cysylltwch â ni i drefnu amser cyfleus i chi siarad â Claire O'Shea, Pennaeth Partneriaeth, neu ddeiliad blaenorol y swydd.
I lawrlwytho’r pecyn ymgeisydd, cliciwch yma.
Comments