top of page
Search

Maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd ym Mis Mai 2021

Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica yn bartneriaid yn Hub Cymru Affrica. Rydym yn alinio ein hunain gyda'r holl ffrindiau mewn datblygu rhyngwladol i alw ar bob ymgeisyddar gyfer etholiadau'r Senedd i barhau ac adeiladu ar y gefnogaeth i raglen Cymru ac Affrica. Dyma ein syniadau penodol yn ein maniffesto:


Egwyddorion iechyd byd-eang

1. Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd: un byd, un pentref.

2. Buddsoddi rhoi gwerth ar weithwyr iechyd ym mhobman.

3. Ni ddylai fod yn ddigon bellach bod ein gweithredoedd yn 'gwneud dim niwed', yn hytrach dylid sicrhau newid cadarnhaol.


Pum peth y gall Cymru eu cyflawni:

1. Ceisio setliad gyda Llywodraeth y DU sy'n caniatáu i sefydliadau a mudiadau yng Nghymru weithredu trwy ddefnyddio Cymorth Datblygu Tramor, yn seiliedig ar flaenoriaethau partneriaid yn Affrica Is-Sahara a'u partneriaid yng Nghymru.

2. Llunio strategaeth ddatblygu fyd-eang ar y cyd â phartneriaid yng Nghymru ac Affrica i’r De o’r Sahara, sy'n seiliedig ar bartneriaeth a meysydd sy'n peri pryder i'r naill garfan a’r llall. Dylai hyn olygu adolygiad o Raglen Cymru ac Affrica, sydd heb newid yn sylweddol ers 2006.

3. Sicrhau bod y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yn cael ei gweithredu'n llawn trwy sbarduno gallu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, i leihau anghydraddoldebau iechyd byd-eang a chyflawni eu dyletswyddau sy'n gyfrifol yn fyd-eang trwy addysg, strategaethau'r gweithlu a’r ddarpariaeth o adnoddau.

4. Galluogi a chynorthwyo partneriaethau iechyd gydag Affrica Is-Sahara a chynyddu eu heffaith: gan ddefnyddio holl arbenigedd a chryfderau sector iechyd Cymru: cyhoeddus, gwirfoddol, academaidd a masnachol.

5. Cydlynu gwaith Rhaglen Cymru ac Affrica, y Ganolfan Cydlynu Iechyd Ryngwladol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, i sicrhau y cyflawnir uchelgeisiau iechyd byd-eang, a symud yn effeithiol i ddulliau mwy digidol a charbon isel.

WaAHLN-2021-Senedd-Manifesto-Cym
.pdf
Download PDF • 172KB




bottom of page